Case UK
Darparu Gwasanaethau Iechyd I Cymru a De Orllewin Lloegr
Casglu eich data personol
Gellir ymgysylltu â Case-UK Limited / CIC drwy fynychu digwyddiad, e-bost, dros y ffôn neu drwy wefan Case-UK Limited.
Pan fyddwch chi’n ymgysylltu ag Case-UK Limited, dim ond y wybodaeth ganlynol y byddwn ni’n ei chasglu a’i storio;
Eich enw, teitl eich swydd, cyfeiriad e-bost, sefydliad, dewisiadau tanysgrifio ac unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n dewis ei darparu i ni.
Efallai y bydd Case-UK Limited hefyd yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein negeseuon e-bost – er enghraifft, a ydych chi’n eu hagor a pha ddolenni rydych chi’n clicio arnynt, manylion pa fersiwn o borwr gwe neu system weithredu.
Gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio gwefan Case-UK Limited, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau i wella profiad eich defnyddiwr.
Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol â sefydliadau eraill, fel yr heddlu, at ddibenion atal a chanfod troseddau.
Defnyddio eich data personol
Bydd y sail gyfreithiol dros gasglu a defnyddio’r data personol yn dibynnu ar y cyd-destun penodol mewn perthynas â’i gasglu.
Fodd bynnag, byddwn fel arfer yn casglu data personol gennych chi yn unig;
Pan fyddwn wedi cael eich caniatâd chi i wneud hynny;
lle bo’r prosesu er ein budd cyfreithlon ni ac nad yw eich hawliau’n chi yn drech na hynny;
os ydych chi wedi ymaelodi a Case-UK Limited, wedi mynychu digwyddiad Case-UK Limited, wedi tanysgrifio i dderbyn gohebiaeth Case-UK Limited neu wedi cael sgwrs e-bost â ni, rydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon caniatâd.
Byddwn yn defnyddio’r data personol rydych chi wedi’i roi i ni i anfon hysbysiadau e-bost atoch chi ac i gasglu adborth er mwyn gwella ein hysbysiadau e-bost. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi o bryd i’w gilydd i wella ein gwasanaeth.
Os ydym yn bwriadu defnyddio unrhyw Ddata Personol mewn unrhyw ffordd nad yw’n gyson â’r Polisi Preifatrwydd hwn, byddwch yn cael gwybod am y defnydd a ragwelir cyn neu ar yr adeg y cesglir y Data Personol, neu byddwn yn cael eich caniatâd yn dilyn casgliad o’r fath ond cyn gwneud defnydd o’r fath.
Mae manylion am y seiliau cyfreithlon dros brosesu data personol ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth. (https://ico.org.uk/)
Sut rydym yn storio ac yn cadw eich data personol
Bydd Case-UK Limited yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen at y diben y cafodd ei gasglu.
Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fyddwch mewn cysylltiad rheolaidd â gohebiaeth Case-UK Limited, byddwn yn cadw eich data personol am hyd at 12 mis nes byddwn yn adolygu ein polisi preifatrwydd.
Bydd y data’n cael ei ddileu a’i gydnabod ar eich cais.
Datgelu a diogelwch eich data personol
Efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i drydydd partïon pan ganiateir i ni wneud hynny, gan gynnwys:
Gyda’ch caniatâd chi
lle rydym wedi ffurfio partneriaeth â sefydliad i gyflawni prosiect, ymgyrch neu ddigwyddiad ac rydym yn gweithredu fel prosesydd;
Os oes gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny;
os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys darparu eich data personol i sefydliadau eraill, fel yr Heddlu, at ddibenion atal a chanfod troseddau.
Ni fydd Case-UK Limited byth yn rhannu nac yn gwerthu eich data personol i sefydliadau eraill at eu dibenion marchnata uniongyrchol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy fydd yn rhannu eich data personol a ble mae’n cael ei storio.
Bydd yr holl ddata personol a roddwch i ni yn cael ei storio’n ddiogel, yn ffisegol ac yn electronig, yn unol â’n polisïau. Mae gennym broses diogelu gwybodaeth ar waith i oruchwylio’r gwaith o brosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel.
Hefyd, gallwn ni (neu broseswyr sy’n gweithredu ar ein rhan) storio neu brosesu eich data personol mewn gwledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond dim ond pan fyddwn yn cael sicrwydd o ddiogelwch y data. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch technegol a sefydliadol ar waith i leihau’r posibilrwydd o golli neu fynediad heb awdurdod at eich data personol.
Proseswyr data ac offer swyddfa ar-lein
Mae Case-UK Limited yn defnyddio cwmnïau trydydd parti fel prosesyddion data i reoli a dadansoddi data’n electronig. Mae’r rhain yn cynnwys Microsoft Office 365. Mae Case-UK Limited hefyd yn rheoli rhai o’i restrau cysylltiadau gan ddefnyddio systemau TG, sydd wedi’u storio mewn system ar-lein o’r enw OneDrive. Pan fyddwn yn defnyddio darparwyr trydydd parti, bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i chi pan fyddwch yn tanysgrifio i’r gwasanaeth hwnnw. Mae manylion y gwasanaethau tanysgrifio i e-bost trydydd parti sy’n cael eu defnyddio’n fwy eang ar gael isod.
SharePoint
Mae Case-UK Limited yn defnyddio Microsoft Office 365’s fel cyfleuster storio diogel ar-lein sy’n cael ei ddiogelu gan gyfrinair ac sydd ond ar gael drwy dîm staff Case-UK Limited.
Polisi Preifatrwydd